Arglwydd, rhedaf at dy orsedd,
Dyna'r fan fy enaid ca'dd
Iechyd, pan yr oedd gelynion,
Duon atgas bron fy lladd:
Nid oes noddfa,
Is y nefoedd ond dy hun.
Wrth dy orsedd di mae bywyd,
Yno caf fi hedd a grym;
Ac ni fethodd is y nefoedd,
Ag a geisiodd genyt ddim:
Minnau aflan,
Ddeuaf at orseddfa hedd.
Er dy fod di heddyw'n eistedd
Yn ngogoniant nef y nef,
Mewn goleuni mor ddysgleiried
Na ellir nesu ato ef;
'R'wyt yn edrych,
Ar d'anwylaf yn y byd.
Ti wnai wyrthiau
os bydd achos,
Cyn yr elo'r gwan i lawr;
Mae dy enw
er y cynfyd
Wedi swnio i maes yn fawr;
Hollalluog,
Ydyw enw mawr fy Nuw.
Iechydwriaeth rad ei hunan
Yw fy nadlo flaen y nef;
Derfydd byth
am dana'i'n hollol,
Oni chaf o'i haeddiant ef;
Iesu'i hunan,
Oll o flaen y fainc i mi.
William Williams 1717-91
Tonau [8787447]: gwelir: Dyma Geidwad i'r colledig Wrth dy orsedd 'r wyf yn gorphwys |
Lord, I run towards thy throne,
There is the place my soul got
Health, when black, detestable enemies
Were almost killing me:
There is no refuge,
Under heaven but thyself.
At thy throne there is life,
There I get peace and force;
And nothing failed under heaven,
That was sought from thee:
I unclean,
Shall come to thy throne of peace.
Although thou art today sitting
In the glory of the heaven of heaven,
In light so radiant
It is not possible to approach it;
Thou art looking,
On thy most beloved in the world.
Thou wouldst do miracles
if there were a reason,
Before the weak one goes down;
Thy name has been,
since the primeval world,
Sounded out greatly;
Almighty,
Is the great name of my God.
Free salvation itself
Is what I argue before heaven;
Everything shall pass away
about me completely,
If only I get of his merit;
Jesus himself,
All before the throne for me.
tr. 2016 Richard B Gillion
|
|